Beth yw CISG?
Mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (CISG) yn sefydliad a arweinir gan bobl ifanc sy’n lobïo, cefnogi, hyrwyddo ac yn brwydro dros hawliau pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
Ein nod yw cynyddu hyder ac ymwybyddiaeth yr holl bobl ifanc fel y gallant fynnu eu hawliau.
Mae pum maes pwysig y mae ein gwaith yn canolbwyntio arnynt:
- Gweithio gyda CHI (e.e. rydym yn cynyddu ymwybyddiaeth pobl ifanc ynghylch eu hawliau fel y gallant newid pethau drostynt eu hunain).
- Siarad o blaid, Brwydro dros a Sicrhau newid (e.e. rydym yn amddiffyn ein hawliau mewn sefydliadau fel Cynghorau Dosbarth er mwyn sicrhau ein bod yn cael ein cynnwys yn eu gwaith)
- Eich cynnwys CHI (e.e. rydym yn mynd allan ac yn cwrdd â phobl ifanc eraill o bob rhan o Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddweud wrthym beth sydd angen ei newid yn eu barn nhw)
- Lledaenu’r neges (e.e. rydym yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc eraill gwrdd wyneb yn wyneb â chynghorwyr, perchnogion busnesau, ac ati
- Cynyddu adnoddau a gwella effeithiolrwydd (e.e. rydym yn gweithio gyda chyllidwyr i gael yr arian sydd ei angen arnom i wneud ein gwaith yn dda)
Mae’r wybodaeth ganlynol (a’r diagram wrth ei hymyl) yn dangos strwythur CISG:
|
Yr holl bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin
|
|
Pobl ifanc yn ymgynghori â phobl ifanc eraill fel bod eu lleisiau a’u safbwyntiau yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt
|
|
Clybiau a phrosiectau ieuenctid gwirfoddol
Clybiau a phrosiectau ieuenctid statudol
Grwpiau a phrosiectau arbenigol/lleiafrifol
Cynghorau ieuenctid gwirfoddol/lleol
Cynghorau ysgol
|
|
Dau gynrychiolydd o bob mudiad/sefydliad yn cael eu hadnabod o fewn y ffynonellau cynrychiolaeth i gael eu hethol i’w cynrychioli yn y fforymau ieuenctid ardal
|
|
Fforwm Aman, fforwm Gwendraeth, fforwm Llanelli, fforwm Tywi, fforwm Teifi, fforwm Taf Myrddin
|
|
Cynrychiolwyr o bob fforwm ieuenctid ardal yn cael eu hethol i Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (sy’n cynnwys un person o bob grŵp unigol o ffynonellau cynrychiolaeth)
|
|
Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin (30 aelod o’r chwe fforwm ieuenctid)
|
|
Y Ddraig Ffynci (pedwar cynrychiolydd) a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc
|